Ieithoedd

Sialens Sgrifennu Natur Cymru – Gwobr o £500 Natur yn Ysbrydoli

Sialens Sgrifennu Natur Cymru – Gwobr o £500
Natur yn Ysbrydoli

Y sialens yw sgrifennu erthygl, oddeutu mil o eiriau, yn sôn am bwnc amgylcheddol/bywyd gwyllt yng Nghymru sy’n eich ysbrydoli chi. Bydd yr enillydd yn cael gwobr o £500 gan WWF Cymru, a bydd y pedwar a ddaw agosaf at y brig yn cael tanysgrifiad i Natur Cymru.
Cylchgrawn chwarterol sy’n sôn am amgylchedd a bywyd gwyllt Cymru yw Natur Cymru. Pwrpas y gystadleuaeth yw tanio trafodaethau ac annog unrhyw un sy’n ymddiddori ym myd natur Cymru i gyfrannu at y cylchgrawn.
Bydd panel o feirniaid yn cnoi cil dros yr erthyglau, ac fe fyddant yn chwilio am y canlynol:
• Cynnwys gwreiddiol
• Iaith syml a chlir (Cymraeg neu Saesneg)
• Y gallu i gyflwyno’r drafodaeth mewn ffordd gytbwys
• I ba raddau y bydd yr erthygl yn dal sylw’r darllenydd ac yn tanio’i ddychymyg

Wrth sgrifennu’r erthyglau, dylai’r cystadleuwyr geisio anelu’u gwaith at gynulleidfa arbennig sy’n ymddiddori mewn pynciau amgylcheddol/bywyd gwyllt – ond nid arbenigwyr o angenrheidrwydd.
Gall pawb, ar wahân i staff Natur Cymru, gymryd rhan yn y gystadleuaeth. Dylech anfon eich erthyglau, ac unrhyw luniau (os oes gennych rai), trwy e-bost at info@naturcymru.org.uk erbyn 31 Mawrth 2010. Bydd yr erthygl fuddugol yn cael ei chyhoeddi yn rhifyn Haf Natur Cymru.

Os bydd gennych gwestiynau’n ymwneud â’r gystadleuaeth, anfonwch e-bost at: huw.naturcymru@btinternet.com