Ieithoedd

Mwy am Llên Natur

Cynhelir Prosiect Llên Natur dan adain Cymdeithas Edward Llwyd.
  • Ymgais ydi'r prosiect i efelychu gwerthoedd Edward Llwyd, polimath mawr Oes yr Ymoleuo, drwy geisio priodi, fel y gwnaeth yntau, astudiaethau o natur, hanes a iaith, ond i wneud hyn mewn ffordd gyfoes a chyffrous.
  • Daeth Prosiect Llên Natur i fodolaeth yn 2007 ar ôl llwyddiant ei ragflaenydd, sef prosiect Llên y Llysiau.
  • Ymgorfforwyd yng ngwefan Llên Natur yr holl wybodaeth a gasglwyd ar gyfer Llên y Llysiau, gan ymestyn y prosiect newydd i gwmpasu'r amgylchedd yn ei gyfanrwydd.
  • Mae'r prosiect yn perthyn i bawb a gallwch gyfrannu i'r cronfeydd a chodi gwybodaeth ohonynt.
  • Dehonglir y gair "llên" yn llac iawn fel y gallwn gynnwys unrhyw sylw priodol ar y byd o'n cwmpas, ddoe a heddiw, boed yn lenyddol, ysgrifenedig, gwyddonol, darluniadol, llafar mewn unrhyw iaith mor agos a phosibl at y ffynhonell wreiddiol.
  • Prosiect a gwefan Cymraeg ei hiaith yw Llên Natur ond mae lle hefyd i gyfraniadau mewn ieithoedd eraill.
  • Hyderwn y bydd Prosiect Llên Natur yn gweddu i weledigaeth gwmpasog a chynhwysfawr y Cymro o'i amgylchedd ac o fudd i ddysgwyr yr iaith yn ogystal.