Ieithoedd

Gwarchodfa Natur Cwm Cadlan

Mae'n debyg mai'r pethau diwethaf y byddech chi'n disgwyl eu gweld ar warchodfa natur sy'n doreithiog o fywyd gwyllt yw peiriannau trwm. Ond, os dewch chi am dro i Warchodfa Natur Genedlaethol Cwm Cadlan ger Hirwaun ym Mannau Brycheiniog yn ystod yr wythnosau nesaf, fe welwch chi beiriant cloddio 13 tunnell ar waith!

Mae'r draeniau, a gafodd eu creu flynyddoedd maith yn ôl i sychu'r tir, yn cael effaith niweidiol ar gynefinoedd bywyd gwyllt prin y safle ? wedi'r cwbl, dyma rai o gorsydd calchog (dolydd gwlyb) gorau'r DU, ac maen nhw'n gartref i gyfoeth o greaduriaid a phlanhigion prin o bob math.

Yn ôl Jon Wohlgemuth, Rheolwr y Warchodfa: "Mae?r gwaith yma?n hanfodol a bydd yn helpu'r safle i wrthsefyll cyfnodau maith o sychder, fel y rhai rydyn ni wedi?u cael yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Fe allai cyfnodau sych o?r fath ddigwydd yn amlach yn y dyfodol oherwydd cynhesu byd-eang."

Os bydd corsydd mewn cyflwr da, mae modd iddyn nhw storio'r carbon a fyddai, fel arall, yn cael ei ryddhau i?r atmosffer. Felly, fe allai'r gymdeithas gyfan fod ar ei hennill wrth warchod cynefinoedd bywyd gwyllt.

Er mwyn gwarchod eu cynefinoedd unigryw, rhaid cynnal a chadw safleoedd o?r fath yn gyson. "Rydw i'n edrych ymlaen at weld dolydd gwlyb y safle'n altro wrth i'r ffosydd gael eu llenwi. Mae'r amrywiaeth o rywogaethau gwahanol sydd ynddyn nhw?n cynnwys toreth o degeirianau, hesg, planhigion llysieuol a mwsoglau," meddai Jon.

Mae?r safle rywfaint i'r gogledd o Hirwaun ym Mannau Brycheiniog, rhwng crib Cefn Cadlan yn y gogledd a Mynydd-y-glog yn y de. Mae?r holl safle?n frith o garneddau ac aneddiadau, a cheir llwybr troed ar draws rhan ohono sy?n cynnig golygfeydd gwych i gerddwyr o'r cynefin amrywiol, ynghyd â chyfle i fwynhau awyrgylch arbennig y lle.

Ers 2003, mae safle Cwm Cadlan wedi?i reoli gan y Cyngor Cefn Gwlad fel Gwarchodfa Natur. Mae?n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn Ardal Cadwraeth Arbennig ar sail y corsydd calchog prin a geir yno.

DIWEDD

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Brân Devey, Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus Rhanbarthol y Cyngor Cefn Gwlad, ar 02920 77 2403 neu bran.devey@ccw.gov.uk.

Corff a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad yw?r Cyngor Cefn Gwlad, ac mae?n gweithio i gael Cymru well lle mae pawb yn trysori ein hamgylchedd naturiol ac yn ei warchod. Gellir cael mwy o wybodaeth am ein gwaith ar www.ccgc.gov.uk