Ieithoedd

Cylchgrawn papur Llên Natur, yn y siopau am £1.50 (am ddim trwy'r post i aelodau Cymdeithas Edward Llwyd)

Mae rhifyn diweddaraf cylchgrawn lliwgar Llên Natur ar gael mewn rhai siopau. Ymunwch â Chymdeithas Edward Llwyd i gael eich copi am ddim (cliciwch y linc i'r wefan i wneud hyn). Mae'r cylchgrawn yn ymddangos ddwywaith y flwyddyn yn y gaeaf a'r haf ar gyfer y rhai ohonoch sydd yn gwerthfawogi deunydd papur yn fwy na darllen ar sgrîn. Mae'r cylchgrawn yn cynnwys erthyglau a phytiau a ymddangosodd eisoes yn y Bwletinau (rhyw fath o "Omnibws") - a hefyd ambell hanesyn newydd.

Rydym yn dal i ddatblygu ein rhwydwaith dosbarthu dros Gymru, ond dyma'r siopau sydd yn gwerthu'r Cylchgrawn hyd yma:

Siop Pike, Porthmadog
Siop Dewi, Penrhyndeudraeth
Siop y Smotyn Du, Llanbedr Pont Steffan
Prifysgol Birmingham
Siop ??, Y Trallwng
INC, Stryd y Bont Aberystwyth
Siop y Pethe, Aberystwyth
Siop y Llyfrgell Genedlaethol
Siop Pethe Powys, Trallwng
Siop Llyfrau Lewis, 21 Stryd Madog, Llandudno
Mae trefniadau ar droed i werthu i'r gymuned Gymraeg yn Birmingham, sef y capeli, y brifysgol ayb.

(eraill i ddod)

Hefyd mae copiau yn cael eu rhannu'n achlysurol yn arosfannau meddygfeydd a deintyddfeydd.
Hyd yma rhennir copiau ym
Meddygfa Waunfawr
(eraill i ddod)

Os hoffech ein cynorthwy trwy ehangu'r rhwydwaith hon, cysylltwch ag Adran Marchnata'r Gymdeithas trwy Ieuan Roberts (ebost: madryn783@aol.com; cyfeiriad post; Madryn, Rhodfa Glynhebog, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion SA48 7JW)