Cystadleuaeth ffotograffiaeth
Mae’r Grwp Mamaliaid Eryri yn rhedeg cystadleuaeth ffotograffiaeth. Mi fydd y lluniau gorau yn cael eu defnyddio yn yr Atlas, hefo’r enillydd ar y clawr. Dan ni’n chwilio am luniau mamaliaid Cymreig, ond hefyd cynefinoedd, olion traed, baw, tyllau ac ati, neu bobl yn syrfeio. Gyrrwch eich lluniau at y Grwp ar snowdoniamammals@aol.com. Mi fydd Grwp Mamaliaid Eryri yn medru defnyddio unryw lun (dim am broffit) ond fydden nhw'n cydnabod y ffotograffydd. Soniwch am hyn wrth eraill.